The Dream Lives On - A celebration of the life and work of Victor Jara

A Dream of a fairer society


Home About UsPast EventsVictor Jara Links Contact Us


English

EL SUEÑO EXISTE -

Mae'r Freuddwyd yn Fyw;

The El Sueno Existe Festival 2009

14, 15, 16 Awst

 

Rhaglen Dydd Gwener 14 Awst 2009

Leaflet yn Cymraeg

Bydd Gwyl 2009 ar y 14eg,15fed a’r 16eg o Awst

Unwaith eto mi fyddwn yn dathlu bywyd a gwaith Victor Jara, llais hyfryd Undod Poblogaidd yn Chile am bron 40 mlynedd.Canodd Victor Jara am fyd lle byddai’r gorthymedig a’r difreintiedig yn cael grym ac urddas. Cafodd ei lofruddio’n greulon gan bwerau adweithiol – ond methodd hynny â roi taw ar ei lais ac mae eraill yn America Ladin sy’n rhannu ei weledigaeth wedi uno erbyn hyn yn y llais hwnnw. Mae poblogaeth frodorol yr ardal wedi creu mudiad dros newid sy’n corffori’r freuddwyd yn natblygiad cymdeithasol a gwleidyddol nifer o wledydd, ac yn arbennig Bolifia.

Eleni, mae Gwyl El Suento yn dathlu bywiogrywwdd y diwylliannau brodorol wrth iddyn wynebu her canrifoedd o ormes ac yn cynnig cyfle newydd i’r byd i gadw’n fyw amrywiaeth rhyfeddol o fynegiant a chreadigrwydd.

Gall gwyl fel hon yng Nghymru roi cyd-destun byd-eang i’r rhai yng Nghymru sy’n cesio amddiffyn a chadw diwylliant brodorol yn fyw.

Ynghyd â cherddoriaeth a pherfformiadau bydd cyfle i gymharu profiadau hanesyddol cymunedau brodorol ym Mhrydain ac America Ladin.

El Suento Existe –

Mae’r freuddwyd yn fyw

Breuddwyd am gymdeithas fwy teg

Rydyn ni’n grwp o bobl sy’n byw o gwmpas tre Machynlleth yn Nyffryn Dyfi yng Nghanolbarth Cymru.  Mae gwreiddiau ein hysbrydoliaeth yn dod o gerddoriaeth ac esiampl Victor Jara.  Roedd y gweledydd yma o gerddor a chyfarwyddwr theatr yn rhan o symudiad y Gân Newydd yn Chile adeg Salvador Ellende.

Ein bwriad yw dathlu a chefnogi blodeuo y mudiadau democrataidd poblogaidd drwy’r byd i gyd, megis llwyddiant mudiadau blaengar yng ngyfandir De America ar y funud.

Rydyn ni’n trefnu digwyddiadau a gwyliau sy’n rhoi cyfle i fudiadau gwleidyddol ac amgylcheddol blaengar i ddod at ei gilydd drwy gyfrwng barddoniaeth, cerdd, dawns, theatr a dadl weleidyddol.

Yn dilyn llwyddiant y gwyliau 3 diwnod Vixctor Jara ym Machynlleth yng Ngorffennaf 2005 a 2007, rydyn ni’n parhau i ddatblygu cyfleon a sayniadau ar gyfer mynegiant diwylliannol, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol.

Gallwch gael ar y safle hon wybodaeth am wyliau 2005 a 2007, syniadau a bywyd Victor Jara, a hefyd y digwyddiadau rydyn ni’n eu trefnu, gan gynnwys trefnu gwyl arall yn 2009 drwy glicio ar y cyswllt ar y chwith.