The Dream Lives On - A celebration of the life and work of Victor Jara

 


 

Home Festival 05 Festival 07 Festival 09 Victor Jara Events Links Contact Us Chile Con Cymru

 


 

English

EL SUEÑO EXISTE -

Mae'r Freuddwyd yn Fyw dathliad o fywyd a gwaith Victor Jara

Breuddwyd am Gymdeithas Decach

Rhaglen Dydd Gwener 14 Awst 2009

Bydd Gwyl 2009 ar y 14eg,15fed a’r 16eg o Awst

Unwaith eto mi fyddwn yn dathlu bywyd a gwaith Victor Jara, llais hyfryd Undod Poblogaidd yn Chile am bron 40 mlynedd.Canodd Victor Jara am fyd lle byddai’r gorthymedig a’r difreintiedig yn cael grym ac urddas. Cafodd ei lofruddio’n greulon gan bwerau adweithiol – ond methodd hynny â roi taw ar ei lais ac mae eraill yn America Ladin sy’n rhannu ei weledigaeth wedi uno erbyn hyn yn y llais hwnnw. Mae poblogaeth frodorol yr ardal wedi creu mudiad dros newid sy’n corffori’r freuddwyd yn natblygiad cymdeithasol a gwleidyddol nifer o wledydd, ac yn arbennig Bolifia.

Eleni, mae Gwyl El Suento yn dathlu bywiogrywwdd y diwylliannau brodorol wrth iddyn wynebu her canrifoedd o ormes ac yn cynnig cyfle newydd i’r byd i gadw’n fyw amrywiaeth rhyfeddol o fynegiant a chreadigrwydd.

Gall gwyl fel hon yng Nghymru roi cyd-destun byd-eang i’r rhai yng Nghymru sy’n cesio amddiffyn a chadw diwylliant brodorol yn fyw.

Ynghyd â cherddoriaeth a pherfformiadau bydd cyfle i gymharu profiadau hanesyddol cymunedau brodorol ym Mhrydain ac America Ladin.

El Suento Existe –

Mae’r freuddwyd yn fyw

Breuddwyd am gymdeithas fwy teg

Rydyn ni’n grwp o bobl sy’n byw o gwmpas tre Machynlleth yn Nyffryn Dyfi yng Nghanolbarth Cymru.  Mae gwreiddiau ein hysbrydoliaeth yn dod o gerddoriaeth ac esiampl Victor Jara.  Roedd y gweledydd yma o gerddor a chyfarwyddwr theatr yn rhan o symudiad y Gân Newydd yn Chile adeg Salvador Ellende.

Ein bwriad yw dathlu a chefnogi blodeuo y mudiadau democrataidd poblogaidd drwy’r byd i gyd, megis llwyddiant mudiadau blaengar yng ngyfandir De America ar y funud.

Rydyn ni’n trefnu digwyddiadau a gwyliau sy’n rhoi cyfle i fudiadau gwleidyddol ac amgylcheddol blaengar i ddod at ei gilydd drwy gyfrwng barddoniaeth, cerdd, dawns, theatr a dadl weleidyddol.

Yn dilyn llwyddiant y gwyliau 3 diwnod Vixctor Jara ym Machynlleth yng Ngorffennaf 2005 a 2007, rydyn ni’n parhau i ddatblygu cyfleon a sayniadau ar gyfer mynegiant diwylliannol, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol.

Gallwch gael ar y safle hon wybodaeth am wyliau 2005 a 2007, syniadau a bywyd Victor Jara, a hefyd y digwyddiadau rydyn ni’n eu trefnu, gan gynnwys trefnu gwyl arall yn 2009 drwy glicio ar y cyswllt ar y chwith.

Yn dilyn llwyddiant ein gweithgareddau yn y gorffennol rydyn ni’n trefnu 3 diwrnod o ddigwyddiadau diwylliannol fis Awst 2007.

Criw o bobl ydyn ni sy’n byw yn ardal Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru. Mae ein hysbrydoliaeth yn dod o gerddoriaeth, bywyd ac esiampl Victor Jara. Roedd gweledigaeth y cerddor a’r cyfarwyddwr theatr hwn yn rhan o’r symudiad ‘Y Gân Newydd’ yn Chile adeg Salvador Allende.

Ein nod yw dathlu a datgan cefnogaeth i dwf mudiadau democrataidd poblogaidd ar hyd a lled y byd, ac yn arbennig llwyddiant mudiadau felly ar gyfandir De America. Ein bwriad yw gwneud y syniadau a’r breuddwydion hyn yn fyw yn y presennol.

Rydyn ni’n trefnu digwyddiadau a gwyliau a fydd yn ganolbwynt a man cyfarfod i grwpiau politicaidd ac amgylcheddol i ddod at ei gilydd  drwy gyfrwng barddoniaeth, cerddoriaeth, dawns, theatr a thrafodaethau gwleidyddol.

Yn dilyn llwyddiant yr Wyl 3 diwrnod ym mis Gorffennaf 2005 er cof am Victor Jara, rydyn ni’n parhau i ddatblygu cyfleon a syniadau er mwyn mynegi ein hunain yn ddiwylliannol, ym maes cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol.

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am Wyl 2005, bywyd a syniadau Victor Jara a’r gweithgareddau rydyn ni’n eu trefnu ar gyfer Gwyl 2007 trwy wasgu ar y dolenni ar y chwith.